top of page

HANESION YR HAFREN
 

Watercolor Brush 8

STORIES OF THE SEVERN
 

Mae Hanesion yr Hafren yn brosiect treftadaeth ddiwylliannol a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy’n ymgysylltu â phobl sy’n rhannu hanes cyffredin o darddiad yr Afon Hafren. Trwy weithdai a phrofiadau ymarferol, creadigol a chynhwysol, rydym wedi rhannu ac archwilio hanes Clywedog a Bryntail a’i effaith ar y set amrywiol o fywydau y mae’n dylanwadu arni boed yn beirianneg yr argae, treftadaeth naturiol yr afon neu straeon personol a hanesyddol o’r ardal. Nod y prosiect yw dal lleisiau a safbwyntiau gwahanol a rhannu straeon haenog, hanesion cudd ac atgofion.  

Mae gweithdai wedi cynnwys dehongliad creadigol o’r amgylchedd naturiol, barddoniaeth, a straeon o’r gorffennol a’r presennol gyda’r nod o feithrin cydweithrediad a chyfeillgarwch a hyrwyddo neges o gynwysoldeb ac amrywiaeth. Rydym wedi gweithio gyda thrawstoriad o grwpiau cymunedol. Ein nod yw arddangos y canlyniadau mewn arddangosfa a digwyddiad dathlu yn yr haf ac ar-lein a bydd hwn yn cynnwys darnau ysgrifenedig, ffotograffau, gwaith celf a darn celf ar y cyd yn arddangos elfennau o grefftau treftadaeth lleol; cwilt cymunedol!

Stories of the Severn is a cultural heritage project funded by the National Lottery Heritage Fund, engaging people who share a common history in the source of the River Severn. Through inclusive practical and creative workshops and experiences we have shared and explored Clywedog and Bryntail’s history and its impact on the diverse set of lives it influences whether it be the engineering of the dam, natural heritage of the river or personal and historical stories from the area. The project aims to capture different voices and points of view, and share layered stories, hidden histories, and memories.  

Workshops have included the creative interpretation of the natural environment, poetry, and stories from past and present with the aim of fostering collaboration and friendship and promoting a message of inclusivity and diversity. We have worked with a cross-over of community groups. Our aim is to showcase the outcomes in an exhibition and celebratory event in the summer and online and this will feature writings, photographs, artwork and a collective art piece displaying elements of local heritage crafts; a community quilt!

 

With thanks to Central Grammar School, Tile Cross Academy, Catrin Meredith, Richard Fryer for sharing images.  

Fe wnaethon ni greu bwrdd stori i danio ein harchwiliad a thrafodaethau am ysbrydoliaeth o ardal Clywedog, gan ddefnyddio lluniau hanesyddol o wersyll Bwthyn Bryntail, lluniau o adeiladu’r argae, cyfraniadau am ecosystem yr afon, mapiau wedi’u tynnu â llaw, cartwnau, a darluniau!

Dechreuodd gweithdai ym mis Mawrth gyda gweithdy ysgrifennu ar-lein i fyfyrio ar atgofion o Wersyll Bwthyn Bryntail gyda myfyrwyr o Tile Cross Academy (Central Grammar School yn flaenorol), Birmingham. Mae gan yr ysgol berthynas hanesyddol â'r gwersyll, gan ddechrau yn y 1900au cynnar. Ysgogodd yr awdur a’r artist, Emily Wilkinson yr archwiliad o brofiadau personol, ac oddi wrthynt, creodd gerdd a ffilm fer.

We created a storyboard fuelling our exploration and discussions of inspiration from the Clywedog area, using historical photos from the Bryntail Cottage camp, photos of the construction of the dam, contributions about the river’s ecosystem, hand-drawn maps, cartoons, and drawings.

Workshops began in March with an online writing workshop to reflect on memories of the Bryntail Cottage Camp with students from Tile Cross Academy (previously Central Grammar School) in Birmingham. The school has a historic relationship with the camp, starting in the early 1900s. Writer and artist Emily Wilkinson prompted the exploration of personal experiences, and from them, she created a poem and short film.

Defnyddiwyd y bwrdd stori, y ffilm fer a chyflwyniadau eraill fel ysbrydoliaeth yn ystod ein gweithdai creadigol gyda myfyrwyr Tile Cross Academy ac Ysgol Cedewain, Y Drenewydd. Ochr yn ochr â chymryd ysbrydoliaeth o gasgliad Minerva o gwiltiau lleol, creodd y myfyrwyr flociau ar gyfer eu cwilt cymunedol. Darparwyd rhoddion o ffabrig yn ogystal â sgiliau ac arbenigedd cwiltio a gwnïo gan y gymuned leol yn y Drenewydd, yn ogystal â chyflwyniadau o floc cwilt gorffenedig i ychwanegu at y cwilt.

 

Cynhyrchodd myfyrwyr o Ysgol Cedewain a thrigolion Llys Glan Yr Afon, Y Drenewydd, ystod eang o flociau cwilt yn adlewyrchu ar y straeon a rannwyd. Mae hanes yr argae, y bywyd gwyllt lleol a thirwedd naturiol yr ardal i gyd i’w gweld yn y cwilt gorffenedig.

The storyboard, short film and other submissions were used as inspiration during our creative workshops with students of Tile Cross Academy and Ysgol Cedewain. Alongside taking inspiration from Minerva’s collection of local quilts, the students created blocks for their community quilt. Donations of fabric as well as quilting and sewing skills and expertise were provided by the local community in Newtown, as well as submissions of a finished quilt block to add to the quilt.

Students from Ysgol Cedewain and residents of Llys Glan Yr Afon produced a wide range of quilt blocks reflecting on the stories that were shared. The history of the dam, the local wildlife and natural landscape of the area can all be seen in the finished quilt blocks.

Cydosodwyd a chwiltiwyd y cwilt gan ddefnyddio techneg hyd fraich gan Bright Quilting yn Llangollen. Mae wedi cael ei arddangos yn Llys Glan Yr Afon ac mae ar hyn o bryd yn cael ei arddangos yn Ysgol Cedewain cyn symud ymlaen i gael ei arddangos yn Tile Cross Academy yn y flwyddyn newydd.

 

The quilt was assembled, and long-arm quilted by Bright Quilting in Llangollen. It has been on display at Llys Glan Yr Afon in Newtown, and is currently being exhibited at Ysgol Cedewain. In the new year the quilt will travel over to Tile Cross Academy in Birmingham to be displayed there. Read more about Tile Cross Acadmey Alumni's memories of the camp here in English or Welsh.

bottom of page